|
Prosiect Perllannau Powys – Coed ffrwythau i bobl a bioamrywiaeth |
Oes gennych chi berllan, neu ydych chi’n tyfu ffrwythau ym Mhowys?
Byddem yn hoffi gweld pobl a bywyd gwyllt Powys yn cael budd o blannu mwy o berllannau. Ond mae angen cynllunio gofalus i dyfu ffrwythau’n llwyddiannus, ac mae’n amlwg bod angen mwy o gyngor ar bobl. Yr angen yma sydd wedi ysbrydoli’r prosiect “Perllannau Bioamrywiaeth” a ariennir gan Glasu ac a drefnir gan Geidwaid Hadau Bro Ddyfi.
â diddordeb mewn darganfod sut rydych yn ymdopi â thyfu ffrwythau yn ein gwlad fendigedig, ond llaith. Ydych chi’n cael cnwd rheolaidd o afalau cochion, melys a basgedi llawn cyrens duon, neu a ydych yn dioddef o gnydau afreolaidd o ffrwythau crachlyd? Ydych chi’n mwynhau eich perllan? Ydi’r gweithgaredd yn rhoi boddhad i chi, neu a ydyw yn dreth ar eich adnoddau? Rhyw lain o fieri sy’n gwneud ichi deimlo’n euog wrth edrych arno? Neu a ydyw yn lloches i chi, i’r gwenyn, gloÿnnod byw a’r adar? Os oes gennych ychydig lwyni yn eich gardd, neu os oes gennych berllan gyfan, byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau.
Cliciwch yma i gymryd rhan mewn arolwg ar lein rŵan! (Fersiwn Saesneg) >> |
|
Neu cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i lawr lwytho ein harolwg dwyieithog >>
|
|
|
Mae Ceidwaid Hadau Bro Ddyfi yn sefydliad nid er elw, wedi’i leoli ym Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru, gyda gwirfoddolwyr yn bennaf yn gyfrifol am ei redeg.
Rydym yn hyrwyddo cadw a chyfnewid hadau, gyda’r nod o...
- warchod hen lysiau neu lysiau anarferol
- meithrin ein gwybodaeth leol a threftadaeth ein planhigion
- hyrwyddo garddio cynaliadwy a chymuned leol ffyniannus

Wedi mynd o nerth i nerth ers 2004, mae ein digwyddiadau yn cynnwys sesiwn cyfnewid hadau flynyddol (Sul yr Hadau) a chyfnewid planhigion (Sadwrn yr Egin), yn ogystal â gweithdai drwy’r flwyddyn gyfan. Mae’n gyfle i arddwyr profiadol a rhai sydd newydd ddechrau garddio ddod ynghyd, cyfnewid eu hadau a’u planhigion, dysgu rhywbeth newydd a rhannu eu harbenigedd.
Mae ein prosiectau’n cynnwys Ymchwil Hadau Cymru, sy’n dod o hyd i fathau gwahanol o lysiau lleol a dod â nhw’n ôl i gael eu hamaethu yn yr ardal. Rydym hefyd yn llunio Cofrestr Afalau Mach – cofnod o fathau o afalau sy’n cael eu tyfu’n lleol.
Mae digon o ffyrdd i chi gymryd rhan yng ngweithgareddau DVSS, beth bynnag fo’ch diddordebau. Dewch draw i un o’n digwyddiadau, helpwch ni i drefnu a hysbysebu gweithdai, dywedwch wrthym beth sy’n tyfu yn eich gardd, rhowch gynnig ar lysiau treftadaeth… |
|
Darllen mwy...
|
|
|