| Chwilio am fathau o lysiau Cymreig |
| MONDAY, 07 SEPTEMBER 2009 08:51 |
|
Oes yna lysieuyn sy'n ffefryn teuluol a dyfwyd ac a gadwyd dros nifer o flynyddoedd? Wyddoch chi am fath sy'n gysylltiedig â phentref, tref neu ardal leol? A ydych wedi tyfu math newydd o lysieuyn yn ddamweiniol neu yn fwriadol? Neu ydych chi'n cadw hadau math arbennig na fedrwch ei brynu bellach?
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn tomatos sy'n medru gwrthsefyll malltod (blight), berwr sy'n araf i hedeg a saladau gaeaf sy'n tyfu'n gryf. Mae Ceidwaid Hadau Bro Ddyfi, sydd wedi'u lleoli ym Machynlleth, yn chwilio am fathau o lysiau yng Nghymru a dyfwyd o'u hadau eu hunain. Rydym yn bwriadu crynhoi casgliad o fathau o lysiau Cymreig sydd wedi addasu o bosib i'n hamodau tyfu ni, eu treialu ym Mhowys, cofnodi'u nodweddion a'u hanes, a gofalu bod yr hadau ar gael i fwy o dyfwyr er mwyn gwarchod yr amrywiaeth a'r dreftadaeth werthfawr. Os ydych chi'n meddwl bod gennych rywbeth a fyddai o ddiddordeb inni, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. Cysylltwch â ni gydag unrhyw wybodaeth am hanes, nodweddion tyfu, blas a gwedd y llysieuyn/llysiau, neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. E-bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. |
