| Tyfu Ffrwythau ym Mhowys |
|
Ydych chi'n ystyried plannu perllan? Mae mwy a mwy o bobl yn cydnabod pwysigrwydd perllannau a'u potensial i wella'r dirwedd, cynyddu bioamrywiaeth, darparu bwyd lleol a dod â chymunedau ynghyd. Yn anffodus, serch hynny, mae llai o dyfu ffrwythau wedi bod yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, ac mae'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n cyd-fynd â hynny wedi crebachu. Nid yw llawer o'r mathau sy'n ffynnu yn rhannau deheuol y DG yn gwneud yn dda yn hinsawdd wlyb Powys, felly mae angen adfywio ein gwybodaeth leol am dyfu ffrwythau. I ymateb i hyn, aeth Ceidwaid Hadau Bro Dyfi ati i gynnal arolwg o berllannau ym Mhowys (wedi'i ariannu gan Glasu) rhwng 2009 a 2010. Roedd 22 perllan yn rhan o'r arolwg, ac aethpwyd ati i gasglu profiadau tyfwyr ffrwythau ledled Powys. Mae'r canlyniadau i'w gweld yn adroddiad 'Tyfu Ffrwythau ym Mhowys'. Rydym yn gobeithio y bydd yn galluogi perllanwyr y dyfodol i wneud penderfyniadau deallus, trwy ddysgu gan rai sydd eisoes yn tyfu ffrwythau yn yr ardal. Lawrlwythwch yr adroddiad yma
Mae'r adroddiad yn cynnwys -
|

Tyfu Ffrwythau ym Mhowys (pdf) 





