| “Tyfu Ffrwythau ym Mhowys” – ar gael nawr! |
| WEDNESDAY, 16 FEBRUARY 2011 15:29 |
|
Mae Ceidwaid Hadau Bro Ddyfi wedi cyhoeddi "Tyfu Ffrwythau ym Mhowys" - canlyniad arolwg Perllannau Powys.
Cynhaliwyd yr arolwg i ymateb i'r galw am wybodaeth am dyfu ffrwythau ym Mhowys. Yn ystod 2009 a 2010 aethpwyd ati i astudio 22 perllan, a chasglu profiadau tyfwyr ffrwythau ledled y Sir. Rydym yn gobeithio y bydd yn galluogi perllanwyr y dyfodol i wneud penderfyniadau deallus, trwy ddysgu gan rai sydd eisoes yn tyfu ffrwythau yn yr ardal.
Diolch yn fawr i Glasu a ariannodd y prosiect.
Gallwch lawrlwytho "Tyfu Ffrwythau ym Mhowys" am ddim o'n gwefan.
|
