| Cofrestr Afalau Mach |
|
Oes yna goeden afalau yn eich gardd? Cofnod o fathau o afalau sy'n tyfu ym Mro Ddyfi yw Cofrestr Afalau Mach. Mae'n dweud wrthym pa rai sy'n tyfu a ffrwytho'n dda yn ein hinsawdd ni, ac yn rhoi cyfle i bobl leol luosogi'u coed eu hunain o fathau sy'n rhai llwyddiannus. Wrth edrych ar silffoedd archfarchnadoedd, ni fyddech yn meddwl ei bod yn bosib tyfu dros 2000 o wahanol fathau o afalau ym Mhrydain. Mae pob un â'i flas unigryw ei hun, yn ogystal â ffrwytho cynnar, storio hir, gwrthsefyll plâu, neu gyda blodau arbennig o hardd. Mae rhai mathau â chysylltiad arbennig ag ardaloedd, megis Afalau Enlli ac Afalau Pig Aderyn. Anfonwch fanylion eich coeden/coed atom trwy lenwi ffurflen Afalau Mach. Os na wyddoch pa fath o goeden afalau sydd gennych, anfonwch atom yr un fath - gall rhywun gael golwg arni ar ein "Diwrnod Afalau" (gweler gwefan Commom Ground ar y dudalen ddolennau i Ddiwrnodau Afalau a gynhelir ym mis Hydref fel arfer.) Bob blwyddyn yn Chwefror/Mawrth rydym yn cynnal gweithdy impio, lle gallwch epilio math arbennig o'r gofrestr a mynd â choeden newydd ei himpio adref gyda chi. Gallwch fwyta afalau a ddewiswyd am eu blas yn hytrach na gorfod dewis rhai sy'n medru gwrthsefyll eu cludo o bellter i'r archfarchnadoedd.
|



